Skip to content
Skip to content
Crwydren

Ymdrechion fenyw ddylai wybod yn well

  • Blog
  • Amdana i
  • Cysylltu
  • Cymraeg
  • English
← Helo byd.
Croeso / Welcome →
-->

Gweithdy Ysgrifennu yn Nhŷ Newydd, Hydref 2018

Posted on Awst 16, 2019 by Eluned Winney
Ty Newydd ar fore oer ym mis Hydref

Hydref diwethaf es i ar weithdy unddydd ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd. Arhosais i dros nôs y noson cyn y gweithdy mewn Air B&B fach yn Nolgellau, a ges i frecwast hyfryd yng Nghriccieth ar fy ffordd yna yn y bore.

Does dim llawer o luniau gyda fi am y diwrnod, mae arna i ofn – do’n i ddim yn meddwl basen i’n blogio amdano ymhen flwyddyn!

Caryl Lewis oedd yn arwain y sessiwn, awdur Y Bwthyn a Martha Jac a Sianco. Ro’n i wrth fy modd cael cwrdd â gymaint o gymru Cymraeg oedd yna i ysgrifennu, a difyr iawn oedd clywed syniadau pobl ar ddiwedd sesiwn ysgrifennu i weld a buasai eu straeon yn weddu ffurf nofel, stori fer neu sgript. Oherwydd dyma oedd pwrpas y diwrnod, gweld pa fath o straeon basai’n ffitio’r gwanhanaol ffurfiau llenyddol.

Roedd y cinio’n hyfryd (cawl, caws a bara), a’r sgwrsio’n hwylus ac yn bositif. Pleser mawr oedd cael cwrdd â Caryl a chlywed ei syniadau a’i barn am ein syniadau am straeon.

Mwynheuais i gymaint, rwy’n dychwelyd Hydref yma eto, i fynychu gweithdy unddydd arall ar ysgrifennu nofel. Gobeithio bydd yn f’ysbrydoli a rhoi hwb i fi i benderfynnu ar stori a’i hysgrifennu.

This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the <a href="https://crwydren.cardiffcreative.co.uk/gweithdy-ysgrifennu-yn-nhy-newydd-hydref-2018/" title="Permalink to Gweithdy Ysgrifennu yn Nhŷ Newydd, Hydref 2018" rel="bookmark">permalink</a>.
← Helo byd.
Croeso / Welcome →

Gadael Ymateb Diddymu ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

© 2026 | Blog info WordPress Theme | By Bharat Kambariya