Croeso / Welcome

This is a bilingual website. Select your language (Welsh or English) at the top right of any page.

Mae’r wefan yma’n ddwyieithog. Dewisiwch eich iaith (Cymraeg neu Saesneg) wrth ben unrhyw dudalen, ar y dde.

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Stori fer wedi ei chyhoeddi: Y Goeden

dy of the Trunk of an Elm Tree' gan John Constable RA, tua, Amgueddfa V&A
“Study of the Trunk of an Elm Tree”,
John Constable, V&A

Mae stori fer dw i wedi ei hysgrifennu wedi cael ei chyhoeddi yng nghylchgrawn Y Stamp.

Mae’n stori hudol â’i gwreiddiau mewn hen chwedlau gwerin, yn swynus ac yn brydferth ac yn llawn bygythiad tawel. Gallwch ei darllen trwy ddilyn y ddolen uchod – gobeithio gwnewch chi ei mwynhau.

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Gweithdy ysgrifennu arall yn Nhŷ Newydd, Hydref 2019

Es i yn ôl i Dŷ Newydd am sesiwn ysgrifennu arall.  Llwyd Owen oedd yn arwain y sesiwn y tro yma, o dan y deitl “Dechrau o’r dechrau: Y Nofel”.  Roedd yn diwrnod difyr a bues i’n digon ffodus i ennill gopi o un o nofelau Llwyd yn ystod y dydd.

Wi’n wir mwynhau’r cyfle mae’r sesiynnau yma’n rhoi i fi i dreulio amser yng nghwmni Cymru Cymraeg arall sy’n ysgrifennu.  Wi’n mynychu grŵp ysgrifennu creadigol Saesneg yn fisol, ond dw i heb dod o hyd i grŵp ysgrifennu Cymraeg lleol. Felly cadwaf i fynd ar fy mhererindaith blynyddol i’r Gogledd nes ‘mod i’n dod o hyd i rhywbeth ychydig yn fwy lleol.

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Gweithdy Ysgrifennu yn Nhŷ Newydd, Hydref 2018

Ty Newydd ar fore oer ym mis Hydref

Hydref diwethaf es i ar weithdy unddydd ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd. Arhosais i dros nôs y noson cyn y gweithdy mewn Air B&B fach yn Nolgellau, a ges i frecwast hyfryd yng Nghriccieth ar fy ffordd yna yn y bore.

Does dim llawer o luniau gyda fi am y diwrnod, mae arna i ofn – do’n i ddim yn meddwl basen i’n blogio amdano ymhen flwyddyn!

Caryl Lewis oedd yn arwain y sessiwn, awdur Y Bwthyn a Martha Jac a Sianco. Ro’n i wrth fy modd cael cwrdd â gymaint o gymru Cymraeg oedd yna i ysgrifennu, a difyr iawn oedd clywed syniadau pobl ar ddiwedd sesiwn ysgrifennu i weld a buasai eu straeon yn weddu ffurf nofel, stori fer neu sgript. Oherwydd dyma oedd pwrpas y diwrnod, gweld pa fath o straeon basai’n ffitio’r gwanhanaol ffurfiau llenyddol.

Roedd y cinio’n hyfryd (cawl, caws a bara), a’r sgwrsio’n hwylus ac yn bositif. Pleser mawr oedd cael cwrdd â Caryl a chlywed ei syniadau a’i barn am ein syniadau am straeon.

Mwynheuais i gymaint, rwy’n dychwelyd Hydref yma eto, i fynychu gweithdy unddydd arall ar ysgrifennu nofel. Gobeithio bydd yn f’ysbrydoli a rhoi hwb i fi i benderfynnu ar stori a’i hysgrifennu.

Posted in Uncategorized | Leave a comment

Helo byd.

Croeso i fy ngwefan – rwy’n falch eich bod wedi cyrraedd ‘ma ac yn ddiolchgar i chi am eich diddordeb ynddof.

Yma, bydda i’n dogfennu fy nghamau bychain-bach tuag at wireddu fy mreuddwyd o fod yn awdur. Dyma lle bydda i’n rhannu fy mhrofiadau, rhwystrau a llwyddiannau. Hoffwn i fod yn awdur i blant, ond dwi ddim yn gwybod eto os bydda i’n ysgrifennu yn y Gymraeg neu’r Saesneg, neu’r ddau.

Mae hon yn wefan dwyieithig – gallwch newid rhwng y Gymraeg a Saesneg ar ben unrhyw dudalen.

Dywed YouTube wrtha i taw nawr yw’r union amser i ddechrau “platfform awdur”, serch nag ydw i unrhywbeth yn debyg i awdur ar hyn o bryd. Ond, un ufudd ydw i wedi bod erioed, felly dyma fi’n dodi fy ngwefan fach at ei gilydd heddiw.

Dilynwch fi ar Instagram, lle dwi’n postio’n weddol aml, ac ar Trydar, lle dwi di’n anaml iawn yn cofio postio.

Eluned

Posted in Uncategorized | Leave a comment