Es i yn ôl i Dŷ Newydd am sesiwn ysgrifennu arall. Llwyd Owen oedd yn arwain y sesiwn y tro yma, o dan y deitl “Dechrau o’r dechrau: Y Nofel”. Roedd yn diwrnod difyr a bues i’n digon ffodus i ennill gopi o un o nofelau Llwyd yn ystod y dydd.
Wi’n wir mwynhau’r cyfle mae’r sesiynnau yma’n rhoi i fi i dreulio amser yng nghwmni Cymru Cymraeg arall sy’n ysgrifennu. Wi’n mynychu grŵp ysgrifennu creadigol Saesneg yn fisol, ond dw i heb dod o hyd i grŵp ysgrifennu Cymraeg lleol. Felly cadwaf i fynd ar fy mhererindaith blynyddol i’r Gogledd nes ‘mod i’n dod o hyd i rhywbeth ychydig yn fwy lleol.